Mae gwybodaeth CAH yn RHAD AC AM DDIM i'r cyhoedd ac i'r rheini sy'n gwneud ymchwil anfasnachol neu astudiaeth academaidd. Rydym yn croesawu ymholiadau dros y ffôn, trwy lythyr, ffacs neu e-bost. Gofynnir i bob ymholwr lenwi Ffurflen Ymholi CAH a chydymffurfio ag Amodau a Thelerau mynediad i'n cofnodion. Mae aelodau o staff ar gael i gynorthwyo ag ymholiadau.
Mae'r CAH ar agor i ymwelwyr bob dydd (trwy apwyntiad yn unig) o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 10.00am a 4.00pm. Cysylltwch â Marion Page, Rheolwr CAH:
Mae gofyn i ymwelwyr â'r CAH lofnodi yn y dderbynfa. Oherwydd rhesymau'n ymwneud â diogelwch, rhaid cadw pob ambarél, bag a châs dogfennau yn y cypyrddau bach diogel a pheidio â mynd â nhw i ystafell Chwilio/Astudio'r CAH heb ganiatâd ymlaen llaw. Gellir defnyddio camerâu digidol neu ffonau symudol sydd â dyfeisiau delweddu arnyn nhw fel modd o gopïo gwybodaeth. Fodd bynnag, mae angen ceisio caniatâd ymlaen llaw.
Parchwch y ffaith y cedwir hawlfraint ar yr holl ddata o'r CAH. Ceir defnyddio'r data at ddibenion ymchwil bersonol yn ddi-dâl, ond rhaid i unrhyw beth a gynhyrchir o ganlyniad i ddefnyddio'r data gydnabod hawlfraint y ffynhonnell.
Bydd disgwyl i ddefnyddwyr CAH ufuddhau i'r holl gyfyngiadau hawlfraint a chyfyngiadau cyfreithiol eraill a allai fod yn berthnasol i wybodaeth ategol a gedwir yn y cofnod. Gall cofnodion ategol gynnwys deunydd y mae pobl/sefydliadau eraill yn cadw'r hawlfraint arno. Mae Deddf Diogelu Data 1998 hefyd yn rheoli rhyddhau rhai mathau penodol o wybodaeth.
Mynd i brif wefan Dyfed yn www.dyfedarchaeology.org.uk
Chwilio cofnodion Ymddiriedolaethau Archaeolegol eraill Cymru www.archwilio.org.uk